[neidio i'r prif gynnwys  |  skip to main content]

Melin Tregwynt

Gwlanen a Chrochenwaith Melin Tregwynt

Mae’r felin enwog hon wedi’i lleoli mewn safle hyfryd yng ngogledd Penfro, ac yn cael ei gweithio gan yr un teulu ers 1912. Mae’n cynhyrchu gwlanenni traddodiadol ond tyfodd y felin yn enw rhyngwladol oherwydd ei chynlluniau lliwgar, cyfoes. Gwerthir y cynnyrch yn Selfridges, Llundain; Bon Marché, Paris ac ABC Carpet & Home, Efrog Newydd - a Tonnau, Pwllheli erbyn hyn!