Printiadau Giclee | Giclee Printing
Gallwn gynnig gwasanaeth sganio a chreu printiadau lliwgar o safon uchel ar bapur dyfrlliw neu bapur ffotograffig neu bapur cynfas ar ein hargraffydd Epson Stylus.
Gall artistiaid ychwanegu gwerth at eu gwaith drwy drefnu gyda Tonnau ein bod yn creu argraffiad cyfyngedig o waith gwreiddiol ganddynt. Mae’r argraffydd giclee yn taenu inc drwy 9 chwistrellwr gwahanol i greu lluniau eithriadol o liwgar. Byddwn yn defnyddio dewis da o rols proffesiynol - papur celf gain 300gsm ar gyfer olew / acrylig / dyfrlliw; papur sidan / semi gloss 240gsm ar gyfer gwaith ffotograffig a chanfas trwm, 340 gsm ar gyfer olew / acrylic a chanfasau ffotograffig.
We can offer a picture scanning service and create colourful prints of high quality on watercolour, photographic or canvas paper on our Epson Stylus.
Artists can add value to their works by arranging with Tonnau to create limited editions The giclee printer sprays ink through 9 different jets to create very attractive and colourful images. We use a wide range of professional rolls - Fine Art Etch, 300gsm which makes attractive oil/acrylic/watercolour prints; silky/semi glossy 240 gsm paper which is very useful for photographic work and Artist Canvas, 340gsm for oil/acrylic and photographic canvases.
Cardiau Post / Hen Luniau | Post Cards / Old Photographs
Gallwn sganio a chynhyrchu argraffiad cyfyngedig bychan iawn o hen gardiau post / hen luniau yn ol eich dymuniad a’u hargraffu ar ein argraffydd Epson Stylus Pro.
We can scan and produce a limited eiditon of old postcards / old pictures as you wish and then print them on our large format giclee printer.
Cofnodi Gwaith Arlunwyr a Chrefftwyr | Recording Artists' Work
Pan ddaw’r amser i artistiaid gasglu eu gwaith ar gyfer arddangosfa, y peth olaf ar eu meddwl yn aml yw cofnodi pob eitem drwy luniau o safon uchel. Mae gennym adnoddau yn Tonnau i dynnu lluniau stiwdio ar ein Canon 5D Mark II ar stand gamera arbennig. Gall arlunydd gadw llyfrgell o jpegs o’r answadd uchef ar gyfer cyhoeddusrwydd neu er mwyn cyhoeddi argraffiad cyfyngedig o ambell brint, neu gyfrol gyfan o’i luniau.
When the time comes for an artist to collect their work for an exhibition, the last thing on their mind is to catalogue each item by means of high quality digital image. At Tonnau, we can offer this service in our studio with our Canon 5D Mark II camera on a pupose built stand. Any artist can keep a library of high quality jpegs for the purpose of publicity or to use to publish limited edition prints, or a complete series of works.
